Ysbyty Brynaber

Opera sebon ar-lein i ddysgwyr. An online soap for learners

You Don’t Speak Welsh! – The Pleasure and Pain of Learning Welsh

Cofnod o ddydd i ddydd o boen a phleser dysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan, gan Americanes o dras Cymreig. A day to day account of the pain and pleasure of learning Welsh on an Wlpan course, written by an American of Welsh descent.

Yn Nwylo Terfysgwyr

Nofel fer gyffrous mewn Cymraeg syml am ferch ysgol sy’n mynd i Baris ar ei gwyliau, a’i chariad sy’n gwneud gwaith cyfrinachol iawn yn y fyddin. Darluniau du-a-gwyn. A short novel suitable for learners about a schoolgirl on holiday in Paris, and her boyfriend who is a soldier on a top secret missi on. Black-and-white illustrations.

Yn y Gwaed

Doedd dim croeso i neb yn Arllechwedd – dyna’r unig ffordd y gallai’r teulu geisio diogelu ei gyfrinachau. Nofel afaelgar a enillodd i’r awdur Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, 1990. Argraffiad newydd; cyhoeddwyd gyntaf yn 1990. No one is ever welcome in Arllechwedd – that is the only way that the family can safeguard its secret. A much-praised novel for adults and winner of the Daniel Owen Memorial Prize at the 1990 National Eisteddfod. New edition; first published in 1990

Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg

Golygiad newydd gan Gwyn Thomas o Ymarfer Ysgrifennu a gyhoeddwyd yn gyntaf ym 1977. Adnodd pwysig a phoblogaidd gan athrawon ysgolion uwchradd, myfyrwyr a chyfieithwyr ers degawdau. Mae’r fersiwn diwygiedig hwn i’w groesawu gan ymgeiswyr wrth baratoi ar gyfer eu harholiad ac eraill sydd am wella’u Cymraeg ysgrifenedig. New, revised edition of Ysgrifennu Cymraeg, first published in 1977. An important and popular resourse for secondary school teachers, students and translators. This is an ideal volume for exam candidates and for anyone wishing to improve their written Welsh.

Y Stafell Ddirgel: Canllaw Astudio Gomer

Canllaw gwerthfawr ar gyfer disgyblion sy’n astudio’r nofel Y Stafell Ddirgel ar gyfer eu harholiadau TGAU Cymraeg, yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am y cefndir hanesyddol a chrefyddol, dadansoddiad manwl o themâu a chymeriadau, taith ac arddull, ynghyd ag ymarferion defnyddiol. 24 ffotograff du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf Rhagfyr 2001. A valuable guide for pupils studying the novel Y Stafell Ddirgel for their Welsh GCSE exams, comprising general information about the historical and religious background, a detailed analysis of themes and characters, language and style, together with useful exercises. 24 black-and-white photographs. First published December 2001.

William Jones

Talfyriad gan Basil Davies o nofel T. Rowland Hughes. Arwel Gruffydd sy’n darllen. Pecyn 4 CD yn gwerthu am bris 1 CD! CD1: Ar ôl, Diwrnod i’r brenin, Amynedd, Golden Streak, CD2: Deud gwd-bei, Anhunedd, Y Nefoedd, dyma le!, Sabath, CD3: Sowthman, O Fryn Glo – I Fryn Glo, Dau actor, CD4: Un actor, Un gawr, Pobol ryfadd, Pen y bwrdd. An adaptation by Basil Davies of the novel by T. Rowland Hughes. Arwel Gruffydd narrates. 4 CD pack retailing at the usual price for 1 CD! CD1: Ar ôl, Diwrnod i’r brenin, Amynedd, Golden Streak, CD2: Deud gwd-bei, Anhunedd, Y Nefoedd, dyma le!, Sabath, CD3: Sowthman, O Fryn Glo – I Fryn Glo, Dau actor, CD4: Un actor, Un gawr, Pobol ryfadd, Pen y bwrdd.

William Jones

Addasiad gyda darluniau o glasur T Rowland Hughes, ynghyd â chyflwyniad a gweithgareddau. An illustrated adaptation of T Rowland Hughes’s Welsh classic, with introduction and activities.

Welsh Roots and Branches/Gwreiddiadur Cymreig

Cyhoeddiad newydd o’r gyfrol bwysig sy’n darparu dull rhwydd a gwreiddiol i alluogi dysgwyr i gynyddu eu geirfa Gymraeg drwy gyfrwng gwreiddeiriau’r iaith. Trefnir y gyfrol yn rhesymegol yn ol trefn yr wyddor. A new paper-back edition of this acclaimed volume which provides an innovative approach to the problem of acquiring an easily assimilated Welsh vocabulary through the root structure of the language. Set out logically in alphabetical order.

Welsh is Fun!

Cyflwyniad ysgafn i’r Gymraeg trwy gyfrwng cartŵnau, gydag ymarferion, gramadeg a geirfa. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Ebrill 1971, dyma’r pedwerydd argraffiad ar hugain. A light-hearted introduction to Welsh by means of cartoons, with exercises, grammar and vocabulary too. First published in April 1971, this is the twenty fourth impression.

Next page

Ymwadiad / Disclaimer

Mae'r Cronfa Ddata yn derbyn gwybodaeth oddi wrth Gwales.com, Cyngor Llyfrau Cymru a CBAC. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y cynhwysir yr wybodaeth ddiweddaraf ond ni ddelir Cyngor Llyfrau Cymru yn gyfrifol os ceir wedyn fod yr wybodaeth yn anghywir. Rhestr gynhwysfawr o'r holl adnoddau sydd ar gael yw hwn yn unig.

Rheolir eich defnydd o'r wefan hon ynghyd ag unrhyw gynnyrch a brynir gennych ar y wefan gan gyfraith Cymru a Lloegr a bernir bod y defnydd hwn wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig.

The database receives information from Gwales.com, Welsh Books Council and WJEC. Every effort is made to ensure that the latest information is included but the Welsh Books Council will not be held responsible if the information is found to be incorrect. This is only a comprehensive list of all the available resources.

Your use of this website including any products you purchase on the website are controlled by the laws of England and Wales, and it will be deemed that this use will have occurred in the United Kingdom.