YrŴyl Yn Eich Poced

Canllaw I’r Eisteddfod i Ddysgwyr A’r Di-Gymraeg = Festival in Your Pocket: A Guide to the Eisteddfod for Learners and Non-Welsh Speakers

Ysgol Maestir

CD-ROM addysgiadol dwyieithog am ysgol o gyfnod Fictoria sydd wedi’i hailadeiladu yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Ceir ar y CD-ROM deithiau rhithwir, archif o ffotograffau, deunydd sy’n cefnogi’r cwricwlwm, a gweithgareddau ar gyfer y dosbarth. Addas i ddisgyblion CA2 a CA3. A bilingual CD-ROM exploring the Victorian school re-erected at St Fagans National Museum. It features virtual visits, archive photographs and evidence, curriculum support materials and classroom activities. Suitable for KS2 and KS3.

You Don’t Speak Welsh! – The Pleasure and Pain of Learning Welsh

Cofnod o ddydd i ddydd o boen a phleser dysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan, gan Americanes o dras Cymreig. A day to day account of the pain and pleasure of learning Welsh on an Wlpan course, written by an American of Welsh descent.

Yn y Gwaed

Doedd dim croeso i neb yn Arllechwedd – dyna’r unig ffordd y gallai’r teulu geisio diogelu ei gyfrinachau. Nofel afaelgar a enillodd i’r awdur Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, 1990. Argraffiad newydd; cyhoeddwyd gyntaf yn 1990. No one is ever welcome in Arllechwedd – that is the only way that the family can safeguard its secret. A much-praised novel for adults and winner of the Daniel Owen Memorial Prize at the 1990 National Eisteddfod. New edition; first published in 1990

Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg

Golygiad newydd gan Gwyn Thomas o Ymarfer Ysgrifennu a gyhoeddwyd yn gyntaf ym 1977. Adnodd pwysig a phoblogaidd gan athrawon ysgolion uwchradd, myfyrwyr a chyfieithwyr ers degawdau. Mae’r fersiwn diwygiedig hwn i’w groesawu gan ymgeiswyr wrth baratoi ar gyfer eu harholiad ac eraill sydd am wella’u Cymraeg ysgrifenedig. New, revised edition of Ysgrifennu Cymraeg, first published in 1977. An important and popular resourse for secondary school teachers, students and translators. This is an ideal volume for exam candidates and for anyone wishing to improve their written Welsh.

Ymunwch yn y Gân

Hanner cant o ganeuon poblogaidd i ddysgwyr. Dilyniant i’r gyfrol ’50 o Ganeuon i Ddysgwyr’. A volume of fifty popular songs for Welsh learners. A sequel to ’50 o Ganeuon i Ddysgwyr’.

Y Stafell Ddirgel: Canllaw Astudio Gomer

Canllaw gwerthfawr ar gyfer disgyblion sy’n astudio’r nofel Y Stafell Ddirgel ar gyfer eu harholiadau TGAU Cymraeg, yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am y cefndir hanesyddol a chrefyddol, dadansoddiad manwl o themâu a chymeriadau, taith ac arddull, ynghyd ag ymarferion defnyddiol. 24 ffotograff du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf Rhagfyr 2001. A valuable guide for pupils studying the novel Y Stafell Ddirgel for their Welsh GCSE exams, comprising general information about the historical and religious background, a detailed analysis of themes and characters, language and style, together with useful exercises. 24 black-and-white photographs. First published December 2001.

Y Brenin Trachwantus

Stori liwgar yn cynnig moeswers am natur ddinistriol trachwant a hunanoldeb, rhan o raglen sy’n ceisio hybu plant ac athrawon i greu eu storïau dwyieithog ac amlgyfrwng eu hunain. A colourful story presenting a moral about the nature of greed and selfishness, part of a series which aims to urge pupils and teachers to create their own bilingual and multimedia stories.

Y Byd o’n Cwmpas (Ffeil Gweithgaredd)

Ffeil gweithgaredd i’w ddefnyddio wrth gyflwyno Cymraeg fel ail-iaith mewn cyd-destun galwedigaethol i fyfyrwyr TGAU a GNVQ galwedigaethol. An activities file to be used when introducing Welsh as a Second Language in a vocational context to GCSE and vocational GNVQ students

Write in and Look up Welsh

Disc cyfeiriol ar gyfer DOS, Windows a Windows 95 sydd yn darparu geiriadur ymadroddion yn ogystal â geiriau cyfystyr dwyieithog. A reference disc for DOS, Windows and Windows 95 which provides a dictionary phrasebook and a bilingual synonym search facility.

Next page

Ymwadiad / Disclaimer

Mae'r Cronfa Ddata yn derbyn gwybodaeth oddi wrth Gwales.com, Cyngor Llyfrau Cymru a CBAC. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y cynhwysir yr wybodaeth ddiweddaraf ond ni ddelir Cyngor Llyfrau Cymru yn gyfrifol os ceir wedyn fod yr wybodaeth yn anghywir. Rhestr gynhwysfawr o'r holl adnoddau sydd ar gael yw hwn yn unig.

Rheolir eich defnydd o'r wefan hon ynghyd ag unrhyw gynnyrch a brynir gennych ar y wefan gan gyfraith Cymru a Lloegr a bernir bod y defnydd hwn wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig.

The database receives information from Gwales.com, Welsh Books Council and WJEC. Every effort is made to ensure that the latest information is included but the Welsh Books Council will not be held responsible if the information is found to be incorrect. This is only a comprehensive list of all the available resources.

Your use of this website including any products you purchase on the website are controlled by the laws of England and Wales, and it will be deemed that this use will have occurred in the United Kingdom.